Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

DYDD 14 O 30

Mae hi'n beth gwych cael profi ein golwg ysbrydol gan yr Optegydd Nefol, gan weld sut mae e'n cywiro ac addasu ein golwg. Mae yn a dyst digamsyniol wnaeth Iesu ei addo i ni a hynny yw'r rhodd o'i heddwch. Waeth pa mor gymhleth y gall yr amgylchiadau fod, mae un funud o gyswllt ag Iesu'n ddigon, a mae'r gwacter di-ystyr yn diflannu gan gael ei newid am heddwch, a llonyddwch llwyr oherwydd yr hyn mae e'n ei dweud, “Dw i wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear."

Dyna beth yw heddwch, gorfoledd a llawenydd pan gawn ein perswadio na all dim ein "gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!"

Cwestiynau myfyrdod: sut mae duw wedi profi a chywiro fy ngolwg ysbrydol? Beth ydw i'n ei weld yn fwy eglur nawr? Sut mae eglurder yn dileu ffwdan ac ofn?

Dyfyniadau o So Send I You and The Love of God, © Discovery House Publishers

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.

More

Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org