Anogaeth
Gobaith Bywyd - Camu tua'r Pasg
Pan fydd tywyllwch yn dy amgylchynu sut ddylet ti ymateb? Am y tri diwrnod nesaf trocha dy hun yn stori'r Pasg a darganfydda sut i ddal gafael mewn gobaith pan wyt ti'n teimlo fel dy fod wedi dy adael, ar ben dy hun, neu'n annheilwng.
Pob cam yn Ddyfodiad
Hyderwn fod y pum defosiwn gan Eugene Peterson yn mynd â’th feddwl a chalon ar daith, gan na wyt yn gwybod beth fydd yr Ysbryd yn ei ddefnyddio i dy annog, herio, neu gysuro. Falle y byddi’n dewis defnyddio’r cwestiynau myfyrio sydd ar ddiwedd pob defosiwn i ffurfio dy weddi dy hun ar gyfer y diwrnod – yn sicr nid fel man gorffen ond yn hytrach fel dechrau ar gyfer yr hyn sydd eto i ddod.
Yr hyn mae'r Tad yn ddweud
Mae meddyliau’r Tad o gariad tuag atat gymaint mwy nag ydy’r tywod ar lan y môr. Ti ydy ei annwyl blentyn, ac mae wedi’i blesio yn llwyr ynot ti. Mae’r defosiwn hwn yn wahoddiad iti ddod ar draws natur berffaith, anhygoel dy Dad nefol. Yn ei gariad, nid oes ymdrech na braw, oherwydd yr wyt yng nghledr ei law.
Dewrder
Dysgwch beth mae'r Beibl yn ei ddweud am ddewrder a hyder. Mae Cynllun Darllen "Dewrder " yn rhoi hyder i gredinwyr trwy eu hatgoffa o bwy ydyn nhw yng Nghrist a'u safle yn Ei Deyrnas. Wrth berthyn i Dduw, mae gennych ryddid i ddod ato yn uniongyrchol. Darllenwch eto - neu efallai darllenwch am y tro cyntaf - yr addewidion sy'n dweud eich bod yn blant i Dduw.
Byw Wedi Newid: Yn y Flwyddyn Newydd
Gyda phob Blwyddyn Newydd daw cyfle newydd am ddechrau newydd. Paid gadael i hon fod yn flwyddyn arall sy'n dechrau gyda phenderfyniadau na fyddi di’n eu cadw. Bydd y cynllun 4 diwrnod hwn yn dy arwain wrth fyfyrio ac yn rhoi persbectif newydd i ti fel y gelli wneud hon y flwyddyn orau eto.
Caru'n Fawr
Mae Hosanna Wong yn gwybod yn union sut beth yw teimlo'n anweledig, yn annheilwng, ac heb fod wedi dy garu. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae hi’n dadbacio naw enw mae Duw yn dy alw di ac yn cynnig anogaeth ymarferol, syml i’th helpu di i ddatgelu celwyddau, gweld dy hun trwy lens Duw, a byw gydag osgo a phwrpas newydd.
Dy Flwyddyn Torri Trwodd: 5 Diwrnod o Ysbrydoliaeth i Gychwyn dy Flwyddyn Newydd
Fe all y flwyddyn newydd fod yn arloesol i ti. Mae dy ddatblygiad newydd ar y gweill jyst tu draw i’r rhwystr a wynebwyd gen ti'r llynedd. Gall hon fod y flwyddyn y byddi di, o'r diwedd, yn cael y datblygiad arloesol sydd ei angen yn dy fywyd. Bydd y cynllun yn rhannu'r anogaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnat ti gael dy flwyddyn orau erioed. .
Dioddefaint
Mae dioddefaint yn rhan annatod o'r ffydd Gristnogol - 2 Timotheus 3:12. Bydd eich agwedd at ddioddefaint yn newid wrth dreulio amser gyda Duw a myfyrio yn ei Air. Wrth ddysgu'r adnodau canlynol medrant eich cymell i feithrin agwedd dduwiol tuag at ddioddefaint. Gadewch i'ch bywyd gael ei drawsnewid trwy ddysgu'r Ysgrythur. Am sustem gynhwysol o ddysgu'r Ysgrythur ewch i www.MemLok.com