Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 2:11 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Sechareia 2:11 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Bydd llawer o wledydd yn uniaethu â’r ARGLWYDD bryd hynny, a byddan nhw hefyd yn bobl i mi. Yn wir, bydda i’n byw yn eich canol chi i gyd.” Byddwch chi’n gwybod wedyn mai’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi.

Sechareia 2:11 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

“A bydd cenhedloedd lawer yn glynu wrth yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn dod yn bobl i mi, a byddaf yn trigo yn dy ganol, a chei wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd atat.

Sechareia 2:11 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr ARGLWYDD, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a’m hanfonodd atat.