Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 2

2
Gweledigaeth y Llinyn Mesur
1 # 2:1 Hebraeg, 2:5. Pan edrychais i fyny, gwelais ŵr â llinyn mesur yn ei law, 2a dywedais, “Ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd, “I fesur Jerwsalem, i weld beth yw ei lled a beth yw ei hyd.” 3Wrth i'r angel oedd yn siarad â mi ddod allan, daeth angel arall i'w gyfarfod, 4a dweud wrtho, “Rhed i ddweud wrth y llanc acw, ‘Bydd Jerwsalem yn faestrefi heb furiau, gan mor niferus fydd pobl ac anifeiliaid ynddi. 5A byddaf fi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn fur o dân o'i hamgylch, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.’ ”
Galw'r Bobl Adref o'r Gaethglud
6“Gwyliwch, gwyliwch! Ffowch o dir y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd taenaf chwi ar led fel pedwar gwynt y nefoedd,” medd yr ARGLWYDD. 7“Gwyliwch! Ffowch i Seion, chwi sy'n trigo ym Mabilon.” 8Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, wedi i'w ogoniant fy anfon at y cenhedloedd sy'n eich ysbeilio, am fod pob un sy'n cyffwrdd â chwi yn cyffwrdd â channwyll ei lygad: 9“Wele fi'n ysgwyd fy nwrn yn eu herbyn, a byddant yn ysbail i'w gweision eu hunain.” Yna cewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd. 10“Gwaedda a gorfoledda, ferch Seion; oherwydd yr wyf yn dod i drigo yn dy ganol,” medd yr ARGLWYDD. 11“A bydd cenhedloedd lawer yn glynu wrth yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn dod yn bobl i mi, a byddaf yn trigo yn dy ganol, a chei wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd atat. 12Bydd yr ARGLWYDD yn etifeddu Jwda yn gyfran iddo yn y tir sanctaidd, a bydd eto yn dewis Jerwsalem. 13Distawed pawb gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd y mae wedi codi o'i drigfa sanctaidd.”

Dewis Presennol:

Sechareia 2: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd