Salm 55:1-10
Salm 55:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwrando ar fy ngweddi, O Dduw; paid diystyru fi’n galw am dy help! Gwranda arna i, ac ateb fi. Mae’r sefyllfa yma’n fy llethu; dw i wedi drysu’n lân! Mae’r gelyn yn gweiddi arna i, ac yn bygwth pob math o ddrwg. Dŷn nhw ond eisiau creu helynt ac ymosod arna i’n wyllt. Mae fy nghalon yn rasio tu mewn i mi. Mae ofn marw wedi mynd yn drech na mi. Mae ofn a dychryn wedi fy llethu i – dw i’n methu stopio crynu! “O na fyddai gen i adenydd fel colomen, i mi gael hedfan i ffwrdd a gorffwys! Byddwn i’n hedfan yn bell i ffwrdd, ac yn aros yn yr anialwch. Saib Byddwn i’n brysio i ffwrdd i guddio, ymhell o’r storm a’r cythrwfl i gyd.” Dinistria nhw, ARGLWYDD, a drysu eu cynlluniau nhw! Dw i’n gweld dim byd ond trais a chweryla yn y ddinas. Mae milwyr yn cerdded ei waliau i’w hamddiffyn ddydd a nos, ond y tu mewn iddi mae’r drwg go iawn
Salm 55:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwrando, O Dduw, ar fy ngweddi; paid ag ymguddio rhag fy neisyfiad. Gwrando arnaf ac ateb fi; yr wyf wedi fy llethu gan fy nghwyn. Yr wyf bron â drysu gan sŵn y gelyn, gan grochlefain y drygionus; oherwydd pentyrrant ddrygioni arnaf, ac ymosod arnaf yn eu llid. Y mae fy nghalon mewn gwewyr, a daeth ofn angau ar fy ngwarthaf. Daeth arnaf ofn ac arswyd, ac fe'm meddiannwyd gan ddychryn. A dywedais, “O na fyddai gennyf adenydd colomen, imi gael ehedeg ymaith a gorffwyso! Yna byddwn yn crwydro ymhell ac yn aros yn yr anialwch; Sela “brysiwn i gael cysgod rhag y gwynt stormus a'r dymestl.” O Dduw, cymysga a rhanna'u hiaith, oherwydd gwelais drais a chynnen yn y ddinas; ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu ar y muriau, ac y mae drygioni a thrybini o'i mewn
Salm 55:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwrando fy ngweddi, O DDUW; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad. Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan, Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog. Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf. Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd. A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn. Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela. Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl. Dinistria, O ARGLWYDD, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas. Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.