Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 17:1-9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Diarhebion 17:1-9 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Mae crystyn sych a thipyn o heddwch yn well na gwledd fawr lle mae pobl yn ffraeo. Bydd gwas da yn rheoli mab sy’n achos cywilydd, a bydd yn rhannu’r etifeddiaeth fel un o’r teulu. Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur, ond yr ARGLWYDD sy’n profi’r galon. Mae’r rhai sy’n gwneud drwg yn gwrando ar gyngor drwg; a’r un sy’n dweud celwydd yn rhoi sylw i eiriau maleisus. Mae’r sawl sy’n chwerthin ar y tlawd yn amharchu ei Grëwr; a bydd yr un sy’n mwynhau gweld trychineb yn cael ei gosbi. Coron pobl mewn oed ydy eu hwyrion a’u hwyresau, a balchder plant ydy eu rhieni. Dydy geiriau gwych ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth celwydd i ŵr bonheddig. Mae breib fel swyn i’r un sy’n ei gynnig; lle bynnag mae’n troi, mae’n llwyddo. Mae’r sawl sy’n cuddio bai yn ceisio cyfeillgarwch, ond yr un sy’n hel clecs yn colli ffrindiau.

Diarhebion 17:1-9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Gwell yw tamaid sych, a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o wleddoedd ynghyd â chynnen. Y mae gwas deallus yn feistr ar fab gwarthus, ac yn rhannu'r etifeddiaeth gyda'r brodyr. Y mae tawddlestr i arian a ffwrnais i aur, ond yr ARGLWYDD sy'n profi calonnau. Y mae'r drwgweithredwr yn gwrando ar eiriau anwir, a'r celwyddog yn rhoi sylw i dafod maleisus. Y mae'r un sy'n gwatwar y tlawd yn amharchu ei Greawdwr, ac ni chaiff y sawl sy'n ymhyfrydu mewn trychineb osgoi cosb. Coron yr hen yw plant eu plant, a balchder plant yw eu rhieni. Nid yw geiriau gwych yn gweddu i ynfytyn, nac ychwaith eiriau celwyddog i bendefig. Carreg hud yw llwgrwobr i'r sawl a'i defnyddia; fe lwydda ple bynnag y try. Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch, ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.

Diarhebion 17:1-9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson. Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr. Y tawddlestr sydd i’r arian, a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr ARGLWYDD. Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg. Y neb a watwaro y tlawd, sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog. Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau. Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog. Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna. Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.