Marc 4:26-28 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Marc 4:26-28 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu wedyn, “Dyma i chi ddarlun arall o deyrnasiad Duw. Mae fel ffermwr yn hau had ar y tir. Mae’r wythnosau’n mynd heibio, a’r dyn yn cysgu’r nos ac yn codi’r bore. Mae’r had gafodd ei hau yn egino ac yn dechrau tyfu heb i’r dyn wneud dim mwy. Mae’r cnwd yn tyfu o’r pridd ohono’i hun – gwelltyn yn gyntaf, wedyn y dywysen, a’r hadau yn y dywysen ar ôl hynny.
Marc 4:26-28 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw: bydd dyn yn bwrw'r had ar y ddaear ac yna'n cysgu'r nos a chodi'r dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu mewn modd nas gŵyr ef. Ohoni ei hun y mae'r ddaear yn dwyn ffrwyth, eginyn yn gyntaf, yna tywysen, yna ŷd llawn yn y dywysen.
Marc 4:26-28 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear; A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe. Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.