Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 4

4
1Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd ato, hyd oni bu iddo fyned i’r llong, ac eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir. 2Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef, 3Gwrandewch: Wele, heuwr a aeth allan i hau: 4A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant. 5A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear. 6A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd. 7A pheth a syrthiodd ymhlith drain; a’r drain a dyfasant, ac a’i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth. 8A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant. 9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. 10A phan oedd efe wrtho’i hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i’r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth: 12Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau. 13Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi’r ddameg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?
14Yr heuwr sydd yn hau’r gair. 15A’r rhai hyn yw’r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt. 16A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen; 17Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt. 18A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair, 19Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu’r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth. 20A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
21Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i’w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren? 22Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb. 23Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 24Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch. 25Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
26Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear; 27A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe. 28Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen. 29A phan ymddangoso’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf.
30Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni? 31Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear; 32Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef. 33Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando: 34Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o’r neilltu i’w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.
35Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i’r tu draw. 36Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef. 37Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian. 38Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni? 39Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr. 40Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd? 41Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?

Dewis Presennol:

Marc 4: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd