Mathew 9:1-7
Mathew 9:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n mynd i mewn i gwch a chroesi’r llyn yn ôl i’w dref ei hun. A dyma rhyw bobl yn dod â dyn wedi’i barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi’i barlysu, “Cod dy galon, ffrind; mae dy bechodau wedi’u maddau.” Roedd rhai o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud wrth ei gilydd, “Mae’r dyn yma’n cablu!” Ond roedd Iesu’n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, ac meddai, “Pam dych chi’n meddwl yn ddrwg amdana i? Ydy’n haws dweud ‘Mae dy bechodau wedi’u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’? Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear …” Yna dyma Iesu’n troi at y dyn oedd wedi’i barlysu, a dweud, “Saf ar dy draed, cymer dy fatras a dos adre.” Yna cododd y dyn ar ei draed ac aeth adre.
Mathew 9:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth Iesu i mewn i gwch a chroesi'r môr a dod i'w dref ei hun. A dyma hwy'n dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Cod dy galon, fy mab; maddeuwyd dy bechodau.” A dyma rai o'r ysgrifenyddion yn dweud ynddynt eu hunain, “Y mae hwn yn cablu.” Deallodd Iesu eu meddyliau ac meddai, “Pam yr ydych yn meddwl pethau drwg yn eich calonnau? Oherwydd p'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’? Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear”—yna meddai wrth y claf, “Cod, a chymer dy wely a dos adref.” A chododd ac aeth ymaith i'w gartref.
Mathew 9:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a aeth i mewn i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i’w ddinas ei hun. Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau. Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i’th dŷ. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun.