Mathew 22:8-10
Mathew 22:8-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Yna meddai wrth ei weision, ‘Mae’r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai gafodd wahoddiad ddim yn haeddu cael dod. Felly ewch i sefyll ar y priffyrdd sy’n mynd allan o’r ddinas, a gwahodd pwy bynnag ddaw heibio i ddod i’r wledd.’ Felly dyma’r gweision yn mynd allan i’r strydoedd a chasglu pawb allen nhw ddod o hyd iddyn nhw – y drwg a’r da. A llanwyd y neuadd briodas â gwesteion.
Mathew 22:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna meddai wrth ei weision, ‘Y mae'r wledd briodas yn barod, ond nid oedd y gwahoddedigion yn deilwng. Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.’ Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion.
Mathew 22:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. Ewch gan hynny i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.