Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 22

22
1A’r Iesu a atebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd, 2Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab, 3Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod. 4Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r briodas. 5A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes, ac arall i’w fasnach: 6A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hamharchasant, ac a’u lladdasant. 7A phan glybu’r brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt. 8Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. 9Ewch gan hynny i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. 10A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.
11A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano: 12Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. 13Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 14Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
15Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. 16A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. 17Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw? 18Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr? 19Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog: 20Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? 21Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. 22A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned ymaith.
23Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo, 24Gan ddywedyd, Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i’w frawd. 25Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a’r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i’w frawd. 26Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y seithfed. 27Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. 28Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? canys hwynt-hwy oll a’i cawsant hi. 29A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw. 30Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef. 31Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, 32Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. 33A phan glybu’r torfeydd hynny, hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef.
34Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle. 35Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd, 36Athro, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith? 37A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl. 38Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr. 39A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. 40Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll.
41Ac wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, 42Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd. 43Dywedai yntau wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, 44Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di? 45Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? 46Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.

Dewis Presennol:

Mathew 22: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd