Mathew 22:15-22
Mathew 22:15-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r Phariseaid yn mynd allan a chynllwynio sut i’w gornelu a’i gael i ddweud rhywbeth fyddai’n ei gael i drwbwl. Dyma nhw’n anfon rhai o’u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod. “Athro,” medden nhw, “dŷn ni’n gwybod dy fod ti’n onest a wir yn dysgu ffordd Duw. Ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Felly, beth ydy dy farn di? Ydy’n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?” Ond roedd Iesu’n gwybod mai drwg oedden nhw’n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi’n ceisio nal i? Dangoswch i mi ddarn arian sy’n cael ei ddefnyddio i dalu’r dreth.” Dyma nhw’n dod â darn arian iddo, a dyma fe’n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae’r arysgrif yma’n sôn?” “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.” Roedden nhw wedi’u syfrdanu pan glywon nhw ei ateb, a dyma nhw’n mynd i ffwrdd.
Mathew 22:15-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air. A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, “Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol â'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb. Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?” Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr? Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian iddo, ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” Dywedasant wrtho, “Cesar.” Yna meddai ef wrthynt, “Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.
Mathew 22:15-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw? Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr? Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog: Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned ymaith.