Mathew 22:1-4
Mathew 22:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n dweud stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn trefnu gwledd briodas i’w fab. Anfonodd ei weision i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad fod popeth yn barod, ond roedden nhw’n gwrthod dod. “Anfonodd weision eraill i ddweud wrthyn nhw: ‘Mae’r wledd yn barod. Dw i wedi lladd teirw a bustych, felly dewch i’r wledd!’
Mathew 22:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A llefarodd Iesu drachefn wrthynt ar ddamhegion. “Y mae teyrnas nefoedd,” meddai, “yn debyg i frenin a drefnodd wledd briodas i'w fab. Anfonodd ei weision i alw'r gwahoddedigion i'r neithior, ond nid oeddent am ddod. Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior.” ’
Mathew 22:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a atebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab, Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod. Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r briodas.