Mathew 21:1-7
Mathew 21:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma nhw’n cyrraedd Bethffage wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, a dyma Iesu’n dweud wrth ddau ddisgybl, “Ewch i’r pentref acw sydd o’ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wedi’i rhwymo a’i hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi, ac os bydd rhywun yn ceisio’ch rhwystro, dwedwch, ‘Mae’r meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’” Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: “Dwed wrth bobl Seion, ‘Edrych! Mae dy frenin yn dod! Mae’n addfwyn ac yn marchogaeth ar asen; ie, ar ebol asyn.’” I ffwrdd â’r disgyblion, a gwneud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw. Pan ddaethon nhw â’r asen a’i hebol yn ôl, dyma nhw’n taflu’u cotiau drostyn nhw, a dyma Iesu’n eistedd arnyn nhw.
Mathew 21:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, anfonodd Iesu ddau ddisgybl gan ddweud wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch â hwy ataf. Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr eu hangen’; a bydd yn eu rhoi ar unwaith.” Digwyddodd hyn fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd: “Dywedwch wrth ferch Seion, ‘Wele dy frenin yn dod atat, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.’ ” Aeth y disgyblion a gwneud fel y gorchmynnodd Iesu iddynt; daethant â'r asen a'r ebol ato, a rhoesant eu mentyll ar eu cefn, ac eisteddodd Iesu arnynt.
Mathew 21:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl, Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwyd, yn dywedyd, Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â’r iau. Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt. A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny.