Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 21

21
Marchogaeth i Jerwsalem
(Marc 11:1-11; Luc 19:28-38; Ioan 12:12-19)
1Dyma nhw’n cyrraedd Bethffage wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, a dyma Iesu’n dweud wrth ddau ddisgybl, 2“Ewch i’r pentref acw sydd o’ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wedi’i rhwymo a’i hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi, 3ac os bydd rhywun yn ceisio’ch rhwystro, dwedwch, ‘Mae’r meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’”
4Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir:
5 “Dwed wrth bobl Seion,
‘Edrych! Mae dy frenin yn dod!
Mae’n addfwyn ac yn marchogaeth ar asen;
ie, ar ebol asyn.’” #Sechareia 9:9
6I ffwrdd â’r disgyblion, a gwneud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw. 7Pan ddaethon nhw â’r asen a’i hebol yn ôl, dyma nhw’n taflu’u cotiau drostyn nhw, a dyma Iesu’n eistedd arnyn nhw. 8Roedd tyrfa fawr yn gosod eu cotiau fel carped ar y ffordd o’i flaen, neu dorri dail o’r coed a’u lledu ar y ffordd. 9Roedd y dyrfa y tu blaen a’r tu ôl iddo yn gweiddi,
“Hosanna! Clod i Fab Dafydd!”
“Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd
wedi’i fendithio’n fawr!” # Salm 118:25,26
“Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
10Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai. 11Ac roedd y dyrfa o’i gwmpas yn ateb, “Iesu, y proffwyd o Nasareth yn Galilea.”
Iesu’n clirio’r deml
(Marc 11:15-19; Luc 19:45-48; Ioan 2:13-22)
12Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau’r rhai oedd yn cyfnewid arian a’u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod. 13Yna dwedodd, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chi’n ei droi yn ‘guddfan i ladron’!”#Eseia 56:7; cyfeiriad at Jeremeia 7:11
14Roedd pobl ddall a rhai cloff yn dod ato i’r deml, ac roedd yn eu hiacháu nhw. 15Ond roedd y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwylltio’n lân wrth weld y gwyrthiau rhyfeddol roedd yn eu gwneud, a’r plant yn gweiddi yn y deml, “Hosanna! Clod i Fab Dafydd!”#21:15 Fab Dafydd: gw. y nodyn ar 9:27.
16“Wyt ti ddim yn clywed beth mae’r plant yma’n ei ddweud?” medden nhw wrtho.
“Ydw,” atebodd Iesu. “Ydych chi wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd erioed, ‘Rwyt wedi dysgu plant a babanod i dy foli di’?”#Salm 8:2 (LXX)
17Dyma fe’n eu gadael nhw, a mynd allan i Bethania, lle arhosodd dros nos.
Y goeden ffigys yn gwywo
(Marc 11:12-14,20-24)
18Yn gynnar y bore wedyn roedd ar ei ffordd yn ôl i’r ddinas, ac roedd e eisiau bwyd. 19Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dyma’r goeden yn gwywo.
20Pan welodd y disgyblion hyn roedden nhw wedi’u syfrdanu. “Sut wnaeth y goeden wywo mor sydyn?” medden nhw.
21“Credwch chi fi,” meddai Iesu, “dim ond i chi gredu a pheidio amau, gallech chi wneud mwy na beth gafodd ei wneud i’r goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i’r môr,’ a byddai’n digwydd. 22Cewch beth bynnag dych chi’n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu.”
Amau awdurdod Iesu
(Marc 11:27-33; Luc 20:1-8)
23Dyma Iesu’n mynd i gwrt y deml a dechrau dysgu’r bobl yno. A dyma’r prif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?”
24Atebodd Iesu nhw, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Os rhowch chi’r ateb i mi, ateba i’ch cwestiwn chi. 25Roedd Ioan yn bedyddio. Ai Duw anfonodd e neu ddim?”
Wrth drafod y peth gyda’i gilydd, dyma nhw’n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn i ni, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’ 26Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’, rhag i’r dyrfa ymosod arnon ni. Maen nhw i gyd yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.”
27Felly dyma nhw’n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw.
“Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
Stori y ddau fab
28“Beth ydych chi’n feddwl? Roedd rhyw ddyn a dau o blant ganddo. Meddai wrth yr hynaf, ‘Dos i weithio yn y winllan heddiw.’ 29‘Na wna i’ meddai hwnnw, ond yn nes ymlaen newidiodd ei feddwl a mynd.
30“Dyma’r tad yn mynd at y mab arall a dweud yr un peth. Atebodd hwnnw, ‘Siŵr iawn, dad,’ ond aeth e ddim. 31Pa un o’r ddau fab wnaeth beth oedd y tad eisiau?” “Y cyntaf,” medden nhw.
Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, bydd y rhai sy’n casglu trethi i Rufain a’r puteiniaid yn dod dan deyrnasiad Duw o’ch blaen chi! 32Achos roedd Ioan wedi dod i ddangos y ffordd iawn i chi, a dyma chi’n gwrthod ei gredu. Ond dyma’r bobl sy’n casglu trethi i Rufain a’r puteiniaid yn credu! A hyd yn oed ar ôl gweld hynny’n digwydd, wnaethoch chi ddim newid eich meddwl a’i gredu e!
Stori’r tenantiaid
(Marc 12:1-12; Luc 20:9-19)
33“Gwrandwch ar stori arall: Roedd rhyw ddyn a thir ganddo wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o’i chwmpas, cloddio lle i wasgu’r sudd o’r grawnwin ac adeiladu tŵr i’w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell.
34“Pan oedd hi’n amser casglu’r grawnwin, anfonodd weision at y tenantiaid i nôl ei siâr o’r ffrwyth. 35Ond dyma’r tenantiaid yn gafael yn y gweision, ac yn ymosod ar un, lladd un arall, a llabyddio un arall â cherrig. 36Felly dyma’r dyn yn anfon gweision eraill, mwy ohonyn nhw y tro yma, ond dyma’r tenantiaid yn gwneud yr un peth i’r rheiny.
37“Yn y diwedd dyma’r dyn yn anfon ei fab atyn nhw. ‘Byddan nhw’n parchu fy mab i,’ meddai. 38Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy’n mynd i etifeddu’r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni’r winllan.’ 39Felly dyma nhw’n gafael ynddo, a’i daflu allan o’r winllan a’i ladd.
40“Felly, beth fydd y dyn biau’r winllan yn ei wneud i’r tenantiaid pan ddaw yn ôl?”
41Dyma nhw’n ateb, “Bydd yn lladd y cnafon drwg! Wedyn bydd yn gosod y winllan ar rent i denantiaid newydd, fydd yn barod i roi ei siâr o’r ffrwythau iddo bob tymor.”
42Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Ydych chi wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd erioed:
‘Mae’r garreg wrthododd yr adeiladwyr
wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen;
yr Arglwydd wnaeth hyn,
ac mae’r peth yn rhyfeddol yn ein golwg.’? # Salm 118:22-23
43“Hyn dw i’n ei ddweud: fod y breintiau o fod dan deyrnasiad Duw yn cael eu cymryd oddi arnoch chi a’u rhoi i bobl fydd yn dangos ei ffrwyth yn eu bywydau. 44Bydd pwy bynnag sy’n baglu ar y garreg yma yn dryllio’n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae’r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.”#21:44 Dydy adn. 44 ddim yn rhai llawysgrifau.
45Pan glywodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid straeon Iesu, roedden nhw’n gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw. 46Roedden nhw eisiau ei arestio, ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw, am fod y bobl yn credu ei fod yn broffwyd.

Dewis Presennol:

Mathew 21: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd