Mathew 20:5-7
Mathew 20:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly i ffwrdd â nhw. “Gwnaeth yn union yr un peth pan aeth allan tua chanol dydd, ac eto am dri o’r gloch y p’nawn. Hyd yn oed am bump o’r gloch y p’nawn gofynnodd i ryw bobl, ‘Pam dych chi’n sefyllian yma yn gwneud dim byd drwy’r dydd?’ “‘Does neb wedi’n cyflogi ni,’ medden nhw. “Felly meddai wrthyn nhw, ‘Ewch i weithio yn y winllan i mi.’
Mathew 20:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ac aethant yno. Yna fe aeth allan eto tua chanol dydd, a thua thri o'r gloch y prynhawn, a gwneud fel o'r blaen. Tua phump o'r gloch aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyll yno, ac meddai wrthynt, ‘Pam yr ydych yn sefyll yma drwy'r dydd yn segur?’ ‘Am na chyflogodd neb ni,’ oedd eu hateb. ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan,’ meddai ef.
Mathew 20:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd. Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur? Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch.