Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 20

20
Stori’r gweithwyr yn y winllan
1“Dyma sut mae’r Un nefol yn teyrnasu – mae fel meistr tir yn mynd allan gyda’r wawr i gyflogi pobl i weithio yn ei winllan. 2Cyn eu hanfon i’w winllan mae’n cytuno i dalu’r cyflog arferol iddyn nhw o un darn arian am ddiwrnod o waith.
3“Yna, tua naw o’r gloch y bore, aeth allan eto a gweld rhai eraill yn sefyllian o gwmpas sgwâr y farchnad yn gwneud dim byd. 4‘Os ewch chi i weithio yn y winllan i mi, tala i gyflog teg i chi,’ meddai. 5Felly i ffwrdd â nhw.
“Gwnaeth yn union yr un peth pan aeth allan tua chanol dydd, ac eto am dri o’r gloch y p’nawn. 6Hyd yn oed am bump o’r gloch y p’nawn gofynnodd i ryw bobl, ‘Pam dych chi’n sefyllian yma yn gwneud dim byd drwy’r dydd?’
7“‘Does neb wedi’n cyflogi ni,’ medden nhw.
“Felly meddai wrthyn nhw, ‘Ewch i weithio yn y winllan i mi.’
8“Pan oedd hi wedi mynd yn hwyr galwodd perchennog y winllan ei fforman, ac meddai wrtho, ‘Galw’r gweithwyr draw a thalu eu cyflog iddyn nhw. Dechreua gyda’r rhai olaf i gael eu cyflogi a gorffen gyda’r rhai cyntaf.’
9“Dyma’r gweithwyr oedd wedi dechrau tua pump o’r gloch y p’nawn yn dod ac yn cael un darn arian bob un. 10Felly pan ddaeth y rhai gafodd eu cyflogi yn gynnar yn y bore, roedden nhw’n disgwyl derbyn mwy. Ond un darn arian gafodd pob un ohonyn nhw hefyd. 11Wrth dderbyn eu tâl dyma nhw’n dechrau cwyno. 12‘Dim ond am awr weithiodd y rhai olaf yna,’ medden nhw, ‘A dych chi wedi rhoi’r un faint iddyn nhw ag i ni sydd wedi gweithio’n galed drwy’r dydd.’
13“Ond meddai’r perchennog wrth un ohonyn nhw, ‘Gwranda gyfaill, dw i ddim yn annheg. Gwnest ti gytuno i weithio am y cyflog arferol, hynny ydy un darn arian am ddiwrnod o waith. 14Felly cymer dy gyflog a dos adre. Fy newis i ydy rhoi’r un faint i’r person olaf un i gael ei gyflogi. 15Mae gen i hawl i wneud beth fynna i gyda f’arian fy hun! Ai bod yn hunanol wyt ti am fy mod i’n dewis bod yn hael?’
16“Felly bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen a’r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.”
Iesu’n dweud eto ei fod yn mynd i farw
(Marc 10:32-34; Luc 18:31-34)
17Pan oedd Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem, aeth â’r deuddeg disgybl i’r naill ochr i gael gair gyda nhw. 18“Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i’r prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw’n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, 19ac yna’n fy rhoi yn nwylo’r Rhufeiniaid.#20:19 Rhufeiniaid: Groeg, “estroniaid”. Bydd y rheiny yn gwneud sbort am fy mhen, fy chwipio a’m croeshoelio. Ond yna ddeuddydd wedyn bydda i’n dod yn ôl yn fyw!”
Dymuniad mam
(Marc 10:35-45)
20Dyma fam Iago ac Ioan, sef gwraig Sebedeus, yn mynd at Iesu gyda’i meibion. Aeth ar ei gliniau o’i flaen i ofyn ffafr ganddo.
21“Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd Iesu iddi.
Dyma’r fam yn ateb, “Baswn i’n hoffi i’m meibion i gael eistedd bob ochr i ti pan fyddi’n teyrnasu.”
22“Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi’n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o’r gwpan chwerw#20:22 yfed o’r gwpan chwerw: Symbol o ddioddef. dw i’n mynd i yfed ohoni?” “Gallwn,” medden nhw wrtho.
23Dwedodd Iesu, “Byddwch chi’n yfed o’m cwpan i, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy’n cael eistedd bob ochr i mi. Mae’r lleoedd hynny wedi’u cadw i bwy bynnag mae fy Nhad wedi’u dewis.”
24Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw’n wyllt gyda’r ddau frawd. 25Ond dyma Iesu’n eu galw nhw i gyd at ei gilydd a dweud, “Dych chi’n gwybod sut mae’r rhai sy’n llywodraethu’r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. 26Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, 27a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i eraill. 28Wnes i, hyd yn oed, ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.”
Dau ddyn dall yn derbyn eu golwg
(Marc 10:46-52; Luc 18:35-43)
29Wrth iddo fynd allan o Jericho gyda’i ddisgyblion, roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu. 30Roedd dau ddyn dall yn cardota ar ochr y ffordd, a phan ddeallodd y ddau ohonyn nhw mai Iesu oedd yn mynd heibio, dyma nhw’n gweiddi, “Helpa ni Fab Dafydd!”#20:30 Fab Dafydd: gw. y nodyn ar 9:27.
31“Caewch eich cegau!” meddai’r dyrfa wrthyn nhw. Ond yn lle hynny dyma nhw’n gweiddi’n uwch, “Arglwydd! Helpa ni Fab Dafydd!”
32Dyma Iesu’n stopio, a’u galw nhw draw a gofyn, “Beth ga i wneud i chi?”
33Dyma nhw’n ateb, “Arglwydd, dŷn ni eisiau gweld.”
34Roedd Iesu’n teimlo drostyn nhw, a dyma fe’n cyffwrdd eu llygaid. Yn sydyn roedden nhw’n gallu gweld! A dyma nhw’n ei ddilyn e.

Dewis Presennol:

Mathew 20: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd