Mathew 20:20-22
Mathew 20:20-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma fam Iago ac Ioan, sef gwraig Sebedeus, yn mynd at Iesu gyda’i meibion. Aeth ar ei gliniau o’i flaen i ofyn ffafr ganddo. “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd Iesu iddi. Dyma’r fam yn ateb, “Baswn i’n hoffi i’m meibion i gael eistedd bob ochr i ti pan fyddi’n teyrnasu.” “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi’n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o’r gwpan chwerw dw i’n mynd i yfed ohoni?” “Gallwn,” medden nhw wrtho.
Mathew 20:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth mam meibion Sebedeus ato gyda'i meibion, gan ymgrymu a gofyn ffafr ganddo. Meddai ef wrthi, “Beth a fynni?” Atebodd, “Gorchymyn fod i'm dau fab hyn gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy deyrnas.” Atebodd Iesu, “Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi i'w yfed?” “Gallwn,” meddent.
Mathew 20:20-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo. Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.