Mathew 18:21-25
Mathew 18:21-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy’n dal ati i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?” Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith! “Dyna sut mae’r Un nefol yn teyrnasu – mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i’w swyddogion, ac am archwilio’r cyfrifon. Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o’i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo. Doedd y swyddog ddim yn gallu talu’r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i’r dyn a’i wraig a’i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o’i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu’r ddyled.
Mathew 18:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth Pedr a gofyn iddo, “Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy nghyfaill i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Ai hyd seithwaith?” Meddai Iesu wrtho, “Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith. Am hynny y mae teyrnas nefoedd yn debyg i frenin a benderfynodd adolygu cyfrifon ei weision. Dechreuodd ar y gwaith, a dygwyd ato was oedd yn ei ddyled o ddeng mil o godau o arian. A chan na allai dalu gorchmynnodd ei feistr iddo gael ei werthu, ynghyd â'i wraig a'i blant a phopeth a feddai, er mwyn talu'r ddyled.
Mathew 18:21-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y daeth Pedr ato ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith; ond, Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith. Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision. A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau. A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a chwbl a’r a feddai, a thalu’r ddyled.