Mathew 18
BCND
18
Y Mwyaf yn y Deyrnas
Mc. 9:33–37; Lc. 9:46–48
1Yr amser hwnnw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?” 2Galwodd Iesu blentyn ato, a'i osod yn eu canol hwy, 3a dywedodd, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd. 4Pwy bynnag, felly, fydd yn ei ddarostwng ei hun i fod fel y plentyn hwn, dyma'r un sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd. 5A phwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i.
Achosion Cwymp
Mc. 9:42–48; Lc. 17:1–2
6“Ond pwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo pe crogid maen melin mawr am ei wddf a'i foddi yn eigion y môr. 7Gwae'r byd oherwydd achosion cwymp; y maent yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol am achos cwymp. 8Os yw dy law neu dy droed yn achos cwymp i ti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus neu'n gloff, na chael dy daflu, a dwy law neu ddau droed gennyt, i'r tân tragwyddol. 9Ac os yw dy lygad yn achos cwymp i ti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i dân uffern.
Dameg y Ddafad Golledig
Lc. 15:3–7
10“Gwyliwch rhag i chwi ddirmygu un o'r rhai bychain hyn; oherwydd rwy'n dweud wrthych fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.#18:10 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 11 Oherwydd daeth Mab y Dyn i achub y colledig. 12Beth yw eich barn chwi? Os bydd gan rywun gant o ddefaid a bod un ohonynt yn mynd ar grwydr, oni fydd yn gadael y naw deg a naw ar y mynyddoedd ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar grwydr? 13Ac os daw o hyd iddi, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae'n llawenhau mwy amdani nag am y naw deg a naw nad aethant ar grwydr. 14Felly nid ewyllys eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd, yw bod un o'r rhai bychain hyn ar goll.
Cyfaill sy'n Pechu
Lc. 17:3
15“Os pecha dy gyfaill yn dy erbyn, dos a dangos ei fai iddo, o'r neilltu rhyngot ti ac ef. Os bydd yn gwrando arnat, fe enillaist dy gyfaill. 16Ond os na fydd yn gwrando, cymer gyda thi un neu ddau arall, er mwyn i bob peth sefyll ar air dau neu dri o dystion. 17Os bydd yn gwrthod gwrando arnynt hwy, dywed wrth yr eglwys; ac os bydd yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, cyfrifa ef fel un o'r Cenhedloedd a'r casglwr trethi.
18“Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa bethau bynnag a waherddwch ar y ddaear, fe'u gwaherddir yn y nef, a pha bethau bynnag a ganiatewch ar y ddaear, fe'u caniateir yn y nef. 19A thrachefn rwy'n dweud wrthych, os bydd dau ohonoch yn cytuno ar y ddaear i ofyn am unrhyw beth, fe'i rhoddir iddynt gan fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. 20Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol.”
Dameg y Gwas Anfaddeugar
21Yna daeth Pedr a gofyn iddo, “Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy nghyfaill i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Ai hyd seithwaith?” 22Meddai Iesu wrtho, “Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith. 23Am hynny y mae teyrnas nefoedd yn debyg i frenin a benderfynodd adolygu cyfrifon ei weision. 24Dechreuodd ar y gwaith, a dygwyd ato was oedd yn ei ddyled o ddeng mil o godau o arian#18:24 Neu, o dalentau. Roedd talent yn gyfwerth â chwe mil denarius, sef cyflog pymtheg i ugain mlynedd.. 25A chan na allai dalu gorchmynnodd ei feistr iddo gael ei werthu, ynghyd â'i wraig a'i blant a phopeth a feddai, er mwyn talu'r ddyled. 26Syrthiodd y gwas ar ei liniau o flaen ei feistr a dweud, ‘Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf y cwbl iti.’ 27A thosturiodd meistr y gwas hwnnw wrtho; gollyngodd ef yn rhydd a maddau'r ddyled iddo. 28Aeth y gwas hwnnw allan a daeth o hyd i un o'i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gant o ddarnau arian#18:28 Neu, o gan denarius. Darn arian oedd denarius. Un denarius oedd y cyflog arferol am ddiwrnod o waith ar y tir. Cymh. Mth. 20:1–16; Dat. 6:6.; ymaflodd ynddo gerfydd ei wddf gan ddweud, ‘Tâl dy ddyled.’ 29Syrthiodd ei gydwas i lawr a chrefodd arno, ‘Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf iti.’ 30Ond gwrthododd; yn hytrach fe aeth a'i fwrw i garchar hyd nes y talai'r ddyled. 31Pan welodd ei gydweision beth oedd wedi digwydd, fe'u blinwyd yn fawr iawn, ac aethant ac adrodd yr holl hanes wrth eu meistr. 32Yna galwodd ei feistr ef ato, ac meddai, ‘Y gwas drwg, fe faddeuais i yr holl ddyled honno i ti, am iti grefu arnaf. 33Oni ddylit tithau fod wedi trugarhau wrth dy gydwas, fel y gwneuthum i wrthyt ti?’ 34Ac yn ei ddicter traddododd ei feistr ef i'r poenydwyr hyd nes y talai'r ddyled yn llawn. 35Felly hefyd y gwna fy Nhad nefol i chwithau os na faddeuwch bob un i'w gyfaill o'ch calon.”

© Cymdeithas y Beibl 2004

© British and Foreign Bible Society 2004

Dysgu mwy am Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004