Mathew 18:1-4
Mathew 18:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bryd hynny daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo, “Pwy ydy’r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol?” Galwodd blentyn bach ato, a’i osod yn y canol o’u blaenau, ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o’r rhai mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. Felly, pwy bynnag sy’n gweld ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy’r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol.
Mathew 18:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr amser hwnnw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?” Galwodd Iesu blentyn ato, a'i osod yn eu canol hwy, a dywedodd, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd. Pwy bynnag, felly, fydd yn ei ddarostwng ei hun i fod fel y plentyn hwn, dyma'r un sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd.
Mathew 18:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd? A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt; Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd. Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.