Luc 18:35-43
Luc 18:35-43 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd Iesu’n agosáu at Jericho dyma ddyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd yn clywed sŵn tyrfa o bobl yn pasio heibio, a dyma fe’n gofyn, “Beth sy’n digwydd?” “Iesu o Nasareth sy’n pasio heibio,” meddai rhywun wrtho. Felly dyma’r dyn dall yn gweiddi’n uchel, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” “Cau dy geg!” meddai’r bobl oedd ar flaen y dyrfa. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi’n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” Dyma Iesu’n stopio, ac yn dweud wrthyn nhw am ddod â’r dyn ato. Pan ddaeth ato, gofynnodd i’r dyn, “Beth ga i wneud i ti?” “Arglwydd,” meddai, “dw i eisiau gallu gweld.” Yna dwedodd Iesu wrtho, “Iawn, cei di weld; am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu gan foli Duw. Ac roedd pawb welodd beth ddigwyddodd yn moli Duw hefyd!
Luc 18:35-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth iddo nesáu at Jericho, yr oedd dyn dall yn eistedd ar fin y ffordd yn cardota. Pan glywodd y dyrfa yn dod gofynnodd beth oedd hynny, a mynegwyd iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio. Bloeddiodd yntau, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Yr oedd y rhai ar y blaen yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd ef yn gweiddi'n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Safodd Iesu, a gorchymyn dod ag ef ato. Wedi i'r dyn nesáu gofynnodd Iesu iddo, “Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?” Meddai ef, “Syr, mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl.” Dywedodd Iesu wrtho, “Derbyn dy olwg yn ôl; dy ffydd sydd wedi dy iacháu di.” Cafodd ei olwg yn ôl ar unwaith, a dechreuodd ei ganlyn ef gan ogoneddu Duw. Ac o weld hyn rhoddodd yr holl bobl foliant i Dduw.
Luc 18:35-43 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, ac efe yn nesáu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota: A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn. A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio. Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. A’r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo, Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymer dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd. Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, a roesant foliant i Dduw.