Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 18

18
Dameg y Weddw a'r Barnwr
1Dywedodd ddameg wrthynt i ddangos fod yn rhaid iddynt weddïo bob amser yn ddiflino: 2“Mewn rhyw dref yr oedd barnwr. Nid oedd yn ofni Duw nac yn parchu eraill. 3Yn y dref honno yr oedd hefyd wraig weddw a fyddai'n mynd ger ei fron ac yn dweud, ‘Rho imi ddedfryd gyfiawn yn erbyn fy ngwrthwynebwr.’ 4Am hir amser daliodd i'w gwrthod, ond yn y diwedd meddai wrtho'i hun, ‘Er nad wyf yn ofni Duw nac yn parchu eraill, 5eto, am fod y wraig weddw yma yn fy mhoeni o hyd, fe roddaf iddi'r ddedfryd, rhag iddi ddal i ddod a'm plagio i farwolaeth.’ ” 6Ac meddai'r Arglwydd, “Clywch eiriau'r barnwr anghyfiawn. 7A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i'w etholedigion, sy'n galw'n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy? 8Rwy'n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?”
Dameg y Pharisead a'r Casglwr Trethi
9Dywedodd hefyd y ddameg hon wrth rai oedd yn sicr eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn, ac yn dirmygu pawb arall: 10“Aeth dau ddyn i fyny i'r deml i weddïo, y naill yn Pharisead a'r llall yn gasglwr trethi. 11Safodd y Pharisead wrtho'i hun a gweddïo fel hyn: ‘O Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi yma. 12Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, ac yn talu degwm ar bopeth a gaf.’ 13Ond yr oedd y casglwr trethi yn sefyll ymhell i ffwrdd, heb geisio cymaint â chodi ei lygaid tua'r nef; yr oedd yn curo ei fron gan ddweud, ‘O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.’ 14Rwy'n dweud wrthych, dyma'r un a aeth adref wedi ei gyfiawnhau, nid y llall; oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”
Bendithio Plant Bach
Mth. 19:13–15; Mc. 10:13–16
15Yr oeddent yn dod â'u babanod hefyd ato, iddo gyffwrdd â hwy, ond wrth weld hyn dechreuodd y disgyblion eu ceryddu. 16Ond galwodd Iesu'r plant ato gan ddweud, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn. 17Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.”
Y Llywodraethwr Ifanc Cyfoethog
Mth. 19:16–30; Mc. 10:17–31
18Gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” 19Dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw. 20Gwyddost y gorchmynion: ‘Na odineba, na ladd, na ladrata, na chamdystiolaetha, anrhydedda dy dad a'th fam.’ ” 21Meddai yntau, “Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid.” 22Pan glywodd Iesu hyn, dywedodd wrtho, “Un peth sydd ar ôl i ti ei wneud: gwerth y cwbl sydd gennyt, a rhanna ef ymhlith y tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.” 23Ond pan glywodd ef hyn, aeth yn drist iawn, oherwydd yr oedd yn gyfoethog dros ben.
24Pan welodd Iesu ef wedi tristáu, meddai, “Mor anodd yw hi i'r rhai goludog fynd i mewn i deyrnas Dduw! 25Oherwydd y mae'n haws i gamel fynd i mewn trwy grau nodwydd nag i'r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.” 26Ac meddai'r gwrandawyr, “Pwy ynteu all gael ei achub?” 27Atebodd yntau, “Y mae'r hyn sy'n amhosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw.” 28Yna dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael ein heiddo a'th ganlyn di.” 29Ond meddai ef wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes neb a adawodd dŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant, er mwyn teyrnas Dduw, 30na chaiff dderbyn yn ôl lawer gwaith cymaint yn yr amser hwn, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.”
Iesu Unwaith Eto yn Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad
Mth. 20:17–19; Mc. 10:32–34
31Cymerodd y Deuddeg gydag ef a dweud wrthynt, “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem, a chyflawnir ar Fab y Dyn bob peth sydd wedi ei ysgrifennu trwy'r proffwydi; 32oherwydd caiff ei drosglwyddo i'r Cenhedloedd, a'i watwar a'i gam-drin, a phoeri arno; 33ac wedi ei fflangellu lladdant ef, a'r trydydd dydd fe atgyfoda.” Nid oeddent hwy yn deall dim o hyn; 34yr oedd y peth hwn wedi ei guddio rhagddynt, a'i eiriau y tu hwnt i'w hamgyffred.
Iacháu Cardotyn Dall ger Jericho
Mth. 20:29–34; Mc. 10:46–52
35Wrth iddo nesáu at Jericho, yr oedd dyn dall yn eistedd ar fin y ffordd yn cardota. 36Pan glywodd y dyrfa yn dod gofynnodd beth oedd hynny, 37a mynegwyd iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio. 38Bloeddiodd yntau, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” 39Yr oedd y rhai ar y blaen yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd ef yn gweiddi'n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” 40Safodd Iesu, a gorchymyn dod ag ef ato. Wedi i'r dyn nesáu gofynnodd Iesu iddo, 41“Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?” Meddai ef, “Syr, mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl.” 42Dywedodd Iesu wrtho, “Derbyn dy olwg yn ôl; dy ffydd sydd wedi dy iacháu di.” 43Cafodd ei olwg yn ôl ar unwaith, a dechreuodd ei ganlyn ef gan ogoneddu Duw. Ac o weld hyn rhoddodd yr holl bobl foliant i Dduw.

Dewis Presennol:

Luc 18: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd