Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 8

8
1Yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerwsalem, allan o’u beddau. 2A hwy a’u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiasant, a’r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant. 3Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd Arglwydd y lluoedd.
4Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel? 5Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd. 6Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr. 7Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a’r aran, a’r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd. 8Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr Arglwydd sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion. 9Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele, gwrthodasant air yr Arglwydd; a pha ddoethineb sydd ynddynt? 10Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster. 11Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch. 12A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd-dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr Arglwydd.
13Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr Arglwydd; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt. 14Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i’r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr Arglwydd ein Duw a’n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i’w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd. 15Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn. 16O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a’r rhai sydd yn trigo ynddi. 17Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i’ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a’ch brathant chwi, medd yr Arglwydd.
18Pan ymgysurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidio ynof. 19Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr Arglwydd yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y’m digiasant â’u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr? 20Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig. 21Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i: galerais; daliodd synder fi. 22Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?

Dewis Presennol:

Jeremeia 8: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd