Eseia 5:20-24
Eseia 5:20-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwae’r rhai sy’n galw drwg yn dda a da yn ddrwg, sy’n dweud fod tywyllwch yn olau a golau yn dywyllwch, sy’n galw’r chwerw yn felys a’r melys yn chwerw! Gwae’r rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n ddoeth, ac yn ystyried eu hunain mor glyfar! Gwae’r rhai sy’n arwyr wrth yfed gwin – ac yn meddwl eu bod nhw’n rêl bois wrth gymysgu’r diodydd; y rhai sy’n gollwng troseddwyr yn rhydd am freib, ac yn gwrthod rhoi dedfryd gyfiawn i’r dieuog. Felly, fel gwellt yn llosgi yn y fflamau a gwair yn crino yn y gwres, bydd eu gwreiddiau yn pydru a’u blagur yn cael ei chwythu ymaith fel llwch. Am eu bod wedi gwrthod beth mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddysgu, a chymryd dim sylw o neges Un Sanctaidd Israel.
Eseia 5:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg, sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch, sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw. Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain, ac yn gall yn eu tyb eu hunain. Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin, ac yn gryfion wrth gymysgu diod gadarn, y rhai sy'n cyfiawnhau'r euog am wobr, ac yn gwrthod cyfiawnder i'r cyfiawn. Am hynny, fel yr ysir y sofl gan dafod o dân ac y diflanna'r mân us yn y fflam, felly y pydra eu gwreiddyn ac y diflanna eu blagur fel llwch; am iddynt wrthod cyfraith ARGLWYDD y Lluoedd, a dirmygu gair Sanct Israel.
Eseia 5:20-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch: y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw. Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun, a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun. Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a’r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn: Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt. Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith ARGLWYDD y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel.