Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 4:2-4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Colosiaid 4:2-4 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Daliwch ati i weddïo drwy’r adeg, gan gadw’ch meddyliau yn effro a bod yn ddiolchgar. A gweddïwch droson ni hefyd, y bydd Duw yn rhoi cyfle i ni rannu’r neges am y Meseia, ac esbonio’r dirgelwch amdano. Dyma pam dw i yn y carchar. Gweddïwch y bydda i’n gwneud y neges yn gwbl glir, fel y dylwn i.

Colosiaid 4:2-4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Parhewch i weddïo yn ddyfal, yn effro, ac yn ddiolchgar. Gweddïwch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist, y dirgelwch yr wyf yn garcharor er ei fwyn. Gweddïwch ar i mi ei amlygu, fel y mae'n ddyletswydd arnaf lefaru.

Colosiaid 4:2-4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch; Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau: Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.