Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 4

4
1Chwi feistri, rhowch i'ch caethweision yr hyn sy'n gyfiawn a theg, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef.
Anogaethau
2Parhewch i weddïo yn ddyfal, yn effro, ac yn ddiolchgar. 3Gweddïwch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist, y dirgelwch yr wyf yn garcharor er ei fwyn. 4Gweddïwch ar i mi ei amlygu, fel y mae'n ddyletswydd arnaf lefaru. 5Byddwch yn ddoeth eich ymddygiad tuag at y rhai sydd y tu allan; daliwch ar eich cyfle. 6Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.
Cyfarchion Terfynol
7Fe gewch yr holl hanes amdanaf gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon, a'm cydwas yn yr Arglwydd. 8Yr wyf yn ei anfon atoch yn unswydd ichwi gael gwybod am ein hynt, ac er mwyn iddo ef eich calonogi. 9Daw Onesimus gydag ef, y brawd ffyddlon ac annwyl, sy'n un ohonoch chwi. Fe gewch yr holl hanes oddi yma ganddynt hwy.
10Y mae Aristarchus, fy nghydgarcharor, yn eich cyfarch; a Marc, cefnder Barnabas (cawsoch orchmynion ynglŷn ag ef: os daw atoch, rhowch groeso iddo); 11a Jesws, a elwir Jwstus. Dyma'r unig gredinwyr Iddewig sy'n cydweithio â mi dros deyrnas Dduw; a buont yn gysur mawr imi. 12Y mae Epaffras, sy'n un ohonoch, caethwas Crist Iesu, yn eich cyfarch. Y mae ef bob amser yn gweddïo'n daer drosoch chwi, ar ichwi sefyll yn gadarn, yn gredinwyr aeddfed, ac yn gwbl argyhoeddedig ym mhob dim y mae Duw yn ei ewyllysio. 13Yr wyf yn tystio amdano ei fod yn llafurio'n ddygn trosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea ac yn Hierapolis. 14Y mae Luc, y meddyg annwyl, a Demas yn eich cyfarch. 15Cyfarchwch y credinwyr yn Laodicea, a Nymffa a'r eglwys sy'n ymgynnull yn ei thŷ. 16A phan fydd y llythyr hwn wedi ei ddarllen yn eich plith chwi, parwch iddo gael ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid. Yr ydych chwithau hefyd i ddarllen y llythyr o Laodicea. 17A dywedwch wrth Archipus, “Gofala dy fod yn cyflawni'r gwasanaeth a ymddiriedodd yr Arglwydd iti.”
18Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. Cofiwch fy mod yng ngharchar. Gras fyddo gyda chwi!

Dewis Presennol:

Colosiaid 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd