1 Timotheus 4:11-16
1 Timotheus 4:11-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwna’n siŵr fod pobl yn gwybod y pethau hyn a dysga nhw. Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di’n ifanc. Bydd yn esiampl dda i’r credinwyr yn y ffordd rwyt ti’n siarad, a sut rwyt ti’n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a’th fywyd glân. Hyd nes bydda i wedi cyrraedd, canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a’u dysgu nhw. Paid ag esgeuluso’r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i’r gwaith. Gwna’r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i’w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti’n dod yn dy flaen. Cadw lygad ar sut rwyt ti’n byw a beth rwyt ti’n ei ddysgu. Dal ati i wneud hynny. Wedyn byddi’n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a’r rhai sy’n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.
1 Timotheus 4:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gorchymyn y pethau hyn i'th bobl, a dysg hwy iddynt. Paid â gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb. Hyd nes imi ddod, rhaid i ti ymroi i'r darlleniadau a'r pregethu a'r hyfforddi. Paid ag esgeuluso'r ddawn sydd ynot ac a roddwyd iti trwy eiriau proffwydol ac arddodiad dwylo'r henuriaid. Gofala am y pethau hyn, ymdafla iddynt, a bydd dy gynnydd yn amlwg i bawb. Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi, a dal ati yn y pethau hyn. Os gwnei di felly, yna fe fyddi'n dy achub dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat.
1 Timotheus 4:11-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y pethau hyn gorchymyn a dysg. Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i’r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb. Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth. Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat.