Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Timotheus 4

4
Rhagfynegi Cefnu ar y Ffydd
1Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog. 2Pobl yw'r rhain â'u cydwybod wedi ei serio, 3yn gwahardd priodi, ac yn mynnu fod pobl yn ymwrthod â bwydydd—bwydydd y mae Duw wedi eu creu i'w derbyn â diolch gan y credinwyr sydd wedi canfod y gwirionedd. 4Oherwydd y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac ni ddylid gwrthod dim yr ydym yn ei dderbyn â diolch iddo ef, 5oherwydd y mae'n cael ei sancteiddio trwy air Duw a gweddi.
Gwas Da i Iesu Grist
6Os dygi di'r pethau hyn i sylw'r gynulleidfa, byddi'n was da i Grist Iesu, yn dy feithrin dy hun â geiriau'r ffydd, a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dilyn. 7Paid â gwrando ar chwedlau bydol hen wrachod, ond ymarfer dy hun i fod yn dduwiol. 8Wrth gwrs, y mae i ymarfer y corff beth gwerth, ond i ymarfer duwioldeb y mae pob gwerth, gan fod ynddo addewid o fywyd yn y byd hwn a'r byd a ddaw. 9Dyna air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr. 10I'r diben hwn yr ydym yn llafurio ac yn ymdrechu,#4:10 Yn ôl darlleniad arall, ac yn cael ein gwaradwyddo. oherwydd rhoesom ein gobaith yn y Duw byw, sy'n Waredwr i bawb, ond i'r credinwyr yn fwy na neb.
11Gorchymyn y pethau hyn i'th bobl, a dysg hwy iddynt. 12Paid â gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb. 13Hyd nes imi ddod, rhaid i ti ymroi i'r darlleniadau a'r pregethu a'r hyfforddi. 14Paid ag esgeuluso'r ddawn sydd ynot ac a roddwyd iti trwy eiriau proffwydol ac arddodiad dwylo'r henuriaid. 15Gofala am y pethau hyn, ymdafla iddynt, a bydd dy gynnydd yn amlwg i bawb. 16Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi, a dal ati yn y pethau hyn. Os gwnei di felly, yna fe fyddi'n dy achub dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat.

Dewis Presennol:

1 Timotheus 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd