Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 21:1-29

1 Brenhinoedd 21:1-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Wedyn dyma hyn yn digwydd: Roedd gan ddyn o’r enw Naboth, o Jesreel, winllan reit wrth ymyl palas Ahab, brenin Samaria. A dyma Ahab yn gwneud cynnig i Naboth, “Rho dy winllan i mi, i mi gael ei throi hi’n ardd lysiau gan ei bod hi reit wrth ymyl y palas. Gwna i roi gwinllan well i ti’n ei lle hi. Neu, os wyt ti eisiau, gwna i dalu pris teg i ti amdani.” Ond dyma Naboth yn gwrthod, “Na, dim ar unrhyw gyfri! Mae’r tir wedi perthyn i’r teulu ers cenedlaethau; allwn i byth ei rhoi hi i ti.” Felly dyma Ahab yn mynd yn ôl i’r palas yn sarrug a blin am fod Naboth wedi gwrthod rhoi’r winllan iddo. Dyma fe’n gorwedd ar ei wely wedi pwdu, a gwrthod bwyta. Yna dyma Jesebel, ei wraig, yn dod ato a gofyn, “Pam wyt ti mewn hwyliau mor ddrwg ac yn gwrthod bwyta?” A dyma fe’n dweud, “Gwnes i ofyn i Naboth werthu ei winllan i mi; neu os oedd yn well ganddo, gwnes i gynnig ei chyfnewid hi am winllan arall. Ond mae e wedi gwrthod rhoi’r winllan i mi.” A dyma Jesebel yn dweud, “Wyt ti’n frenin Israel neu ddim? Tyrd, bwyta rywbeth. Cod dy galon! Gwna i gael gafael ar winllan Naboth i ti.” Aeth ati i ysgrifennu llythyrau yn enw Ahab, rhoi sêl y brenin arnyn nhw, a’u hanfon at yr arweinwyr a’r bobl bwysig oedd yn byw yn yr un gymuned â Naboth. Dyma ysgrifennodd hi: “Cyhoeddwch ddiwrnod o ymprydio, a rhoi Naboth i eistedd mewn lle amlwg o flaen pawb. Yna ffeindiwch ddau ddyn drwg a’u gosod nhw i eistedd gyferbyn ag e, a’u cael nhw i gyhuddo Naboth yn gyhoeddus o fod wedi melltithio Duw a’r brenin. Wedyn ewch ag e allan a thaflu cerrig ato nes bydd wedi marw.” Dyma arweinwyr a phobl bwysig y gymuned yn gwneud yn union fel roedd Jesebel wedi dweud yn y llythyrau. Dyma nhw’n cyhoeddi diwrnod o ympryd, ac yn rhoi Naboth mewn lle amlwg o flaen y bobl. Dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth, a’i gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a’r brenin!” Felly dyma nhw’n mynd â Naboth allan o’r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw. Yna, dyma nhw’n anfon neges at Jesebel, “Mae Naboth wedi cael ei ladd gyda cherrig.” Y funud y clywodd Jesebel fod Naboth wedi marw, dyma hi’n dweud wrth Ahab, “Cod, cymer y winllan roedd Naboth o Jesreel wedi gwrthod ei gwerthu i ti. Dydy Naboth ddim yn fyw; mae e wedi marw.” Pan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, dyma fe’n mynd i lawr i’r winllan i’w hawlio hi iddo’i hun. Ond yna, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i gyfarfod Ahab, brenin Israel, yn Samaria. Cei hyd iddo yng ngwinllan Naboth. Mae wedi mynd yno i hawlio’r winllan iddo’i hun. Dwed wrtho, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ar ôl llofruddio’r dyn, wyt ti hefyd am ddwyn ei eiddo?’ Dwed wrtho hefyd, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Lle bu’r cŵn yn llyfu gwaed Naboth, bydd cŵn yn llyfu dy waed di hefyd – ie, ti!’” Dyma Ahab yn dweud wrth Elias, “Felly, fy ngelyn i, ti wedi dod o hyd i mi!” A dyma Elias yn ateb, “Ydw, dw i wedi dod o hyd i ti. Ti’n benderfynol o wneud pethau sy’n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD! Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i’n mynd i wneud drwg i ti, a dod â dy linach i ben. Bydda i’n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel, sy’n perthyn i Ahab, y caeth a’r rhydd. Bydda i’n gwneud yr un peth i dy linach di ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa am dy fod ti wedi fy ngwylltio i a gwneud i Israel bechu.’ A dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jesebel, ‘Bydd cŵn yn bwyta Jesebel o fewn waliau Jesreel.’ ‘Bydd pobl Ahab sy’n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy’n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar!’” (Fuodd yna neb tebyg i Ahab, oedd mor benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac roedd Jesebel ei wraig yn ei annog e. Roedd yn gwneud pethau hollol afiach, yn addoli eilunod diwerth yn union yr un fath â’r Amoriaid, y bobl roedd yr ARGLWYDD wedi’u gyrru allan o’r wlad o flaen Israel.) Pan glywodd Ahab neges Elias, dyma fe’n rhwygo’i ddillad a gwisgo sachliain, a mynd heb fwyd. Roedd yn cysgu mewn sachliain ac yn cerdded o gwmpas yn isel ei ysbryd. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Wyt ti wedi gweld fel mae Ahab wedi plygu mewn cywilydd o mlaen i? Am ei fod yn edifar, wna i ddim dod â’r drwg yn ystod ei fywyd e. Bydda i’n dinistrio’i linach pan fydd ei fab yn frenin.”

1 Brenhinoedd 21:1-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar ôl hyn digwyddodd fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad yn Jesreel ar gwr palas Ahab brenin Samaria. A dywedodd Ahab wrth Naboth, “Rho dy winllan i mi i fod yn ardd lysiau, gan ei bod mor agos i'm tŷ; a rhof iti'n gyfnewid winllan well na hi. Neu, os yw'n well gennyt, rhof iti ei gwerth mewn arian.” Dywedodd Naboth wrth Ahab, “Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag rhoi i ti etifeddiaeth fy hynafiaid.” Dychwelodd Ahab i'w dŷ yn ddigalon a dig am i Naboth y Jesreeliad ateb, “Ni roddaf iti etifeddiaeth fy hynafiaid.” Bwriodd ei hun ar ei wely, a throi ei wyneb draw a gwrthod bwyta. Daeth ei wraig Jesebel ato a gofyn iddo, “Pam yr wyt yn ddi-hwyl dy ysbryd ac yn gwrthod bwyta?” Atebodd yntau, “Dywedais wrth Naboth y Jesreeliad, ‘Rho dy winllan i mi am arian; neu, os dewisi, rhof iti winllan yn ei lle.’ Ac atebodd, ‘Ni roddaf fy ngwinllan iti.’ ” A dywedodd Jesebel wrtho, “Dangos yn awr mai ti yw'r brenin yn Israel. Cod, bwyta, cod dy galon, fe roddaf fi winllan Naboth y Jesreeliad iti.” Ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, a'u selio â'i sêl, a'u hanfon at yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas â Naboth. Yn y llythyrau yr oedd wedi ysgrifennu, “Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth i fyny o flaen y bobl, a dau ddihiryn i dystio yn ei erbyn, ‘Yr wyt ti wedi melltithio Duw a'r brenin.’ Yna ewch ag ef allan a'i labyddio'n gelain.” A gwnaed â Naboth gan yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas ag ef yn union fel y gorchmynnodd Jesebel yn y llythyrau a ysgrifennodd atynt. Wedi cyhoeddi ympryd, gosodasant Naboth i fyny o flaen y bobl, a daeth y ddau ddihiryn ac eistedd o'i flaen, a thystio yn erbyn Naboth gerbron y bobl a dweud, “Y mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin.” Aed ag ef y tu allan i'r ddinas a'i labyddio â cherrig nes iddo farw. Yna anfonasant neges at Jesebel: “Mae Naboth wedi ei labyddio ac wedi marw.” Cyn gynted ag y clywodd Jesebel fod Naboth wedi ei labyddio'n gelain, dywedodd wrth Ahab, “Cod, meddianna'r winllan y gwrthododd Naboth y Jesreeliad ei hildio iti am arian. Nid yw Naboth yn fyw; y mae wedi marw.” A phan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, aeth i lawr i winllan Naboth y Jesreeliad i'w meddiannu. Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad a dweud, “Cod, a dos i lawr i gyfarfod Ahab brenin Israel yn Samaria. Fe'i cei yng ngwinllan Naboth; y mae wedi mynd yno i'w meddiannu. Dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Wedi llofruddio, a fynni di hefyd feddiannu?” ’ Dywed hefyd wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, fe lyfant dy waed dithau.” ’ ” Dywedodd Ahab wrth Elias, “A ddaethost o hyd i mi, fy ngelyn?” Atebodd yntau, “Do; ac am dy fod wedi ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, rwyf yn dwyn drwg arnat ti, ac yn dileu dy hiliogaeth; difodaf bob gwryw yn perthyn i Ahab yn Israel, caeth a rhydd. Gwnaf dy dŷ fel tŷ Jeroboam fab Nebat a thŷ Baasa fab Aheia, oherwydd y dicter a achosaist wrth beri i Israel bechu. Ac am Jesebel, fe ddywed yr ARGLWYDD, ‘Y cŵn fydd yn bwyta Jesebel wrth fur Jesreel.’ Bydd y cŵn yn bwyta pob aelod o deulu Ahab a fydd farw yn y dref, ac adar rheibus yn bwyta pob un a fydd farw allan yn y wlad.” Eto ni bu neb cynddrwg ag Ahab mewn ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, am fod Jesebel ei wraig yn ei annog. Gwnaeth yn ffiaidd iawn trwy addoli eilunod, yn hollol fel y gwnâi'r Amoriaid a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid. Cyn gynted ag y clywodd Ahab eiriau Elias, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain ar ei gnawd, ac ymprydio, a chysgu ar sachliain, a cherdded yn araf. Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad yn dweud, “A sylwaist ti fod Ahab wedi ymostwng ger fy mron? Gan ei fod wedi ymostwng ger fy mron, nid wyf am ddod â'r drwg yn ei ddyddiau ef; yn nyddiau ei fab y dygaf y drwg ar ei deulu.”

1 Brenhinoedd 21:1-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A digwyddodd ar ôl y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad, yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria. Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y mae hi yn agos i’m tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi yn arian. A Naboth a ddywedodd wrth Ahab, Na ato yr ARGLWYDD i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti. Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac ni fwytâi fara. Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae dy ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara? Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan. A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad. Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a’u seliodd â’i sêl ef, ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn ei ddinas yn trigo gyda Naboth. A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth uwchben y bobl. Cyflëwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn ag ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a’r brenin. Ac yna dygwch ef allan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw. A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a’r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy. Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl. A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd DDUW a’r brenin. Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw. Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw. A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw. A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi. A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu. A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, y llyf cŵn dy waed dithau hefyd. A dywedodd Ahab wrth Eleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel: A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahïa, oherwydd y dicter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu. Am Jesebel hefyd y llefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Y cŵn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel. Y cŵn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd. Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef. Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf. A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dŷ ef.