Salm 63
63
Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.
1Ti O Dduw, yw fy Nuw i * yn / fore · y’th / geisiaf :
sychedodd fy enaid amdanat * hiraethodd fy nghnawd amdanat * mewn tir / cras · sy/chedig · heb /ddwfr;
2I weled dy / nerth · a’th o/goniant :
fel y’th / welais / yn y / cysegr.
3Canys gwell yw dy drugaredd / di na’r / bywyd :
fy ngwe/fusau / a’th fol/iannant.
4Fel hyn y’th glodforaf / yn fy / mywyd :
dyrchafaf fy / nwylo / yn dy / enw.
5Megis â mer ac â braster y di/gonir · fy / enaid :
a’m genau a’th / fawl · â gwe/fusau / llafar.
6Pan y’th gofiwyf / ar fy / ngwely :
myfyriaf amdanat yng / ngwylia · dwr/iaethau · y / nos.
7Canys buost gyn/horthwy · i / mi :
am hynny yng nghysgod dy a/denydd · y / gorfo/leddaf.
8Fy enaid a / lŷn / wrthyt :
dy dde/heulaw / a’m / cynnal.
9Ond y rhai a geisiant fy / enaid · i / ddistryw :
a ânt i / isel/derau · y / ddaear.
10Syrthiant ar / fin y / cleddyf :
a / rhan llwy/nogod / fyddant.
† 11Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw * gorfoledda pob un a / dyngo · iddo / ef :
eithr caeir genau y / rhai · a ddy/wedant / gelwydd.
Dewis Presennol:
Salm 63: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984