Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 61

61
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
1Clyw O / Dduw fy / llefain :
gwrando / ar / fy / ngweddi.
2O eithaf y ddaear y llefaf atat pan les/meirio · fy / nghalon :
arwain fi i graig a / fyddo / uwch na / mi.
3Canys buost yn / noddfa · i / mi :
ac yn dŵr / cadarn / rhag y / gelyn.
4Preswyliaf yn dy / babell / byth :
a’m hymddiried fydd dan / orchudd / dy a/denydd.
5Canys ti Dduw, a glywaist fy / addu/nedau :
rhoddaist etifeddiaeth i’r / rhai a / ofnant · dy / enw.
6Ti a estynni / oes y / Brenin :
ei flynyddoedd fyddant fel / cened/laethau / lawer.
7Efe a erys byth ger/bron / Duw :
darpar drugaredd a gwirionedd / fel y / cadwont / ef.
8Felly y canmolaf dy / enw yn · dra/gywydd :
fel y talwyf fy / addu/nedau / beunydd.

Dewis Presennol:

Salm 61: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda