Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 54

54
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul, Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni?
1Achub fi, O Dduw / yn dy / enw :
a / barn fi / yn dy · ga/dernid.
2Duw / clyw fy / ngweddi :
gwrando y/madrodd / fy / ngenau.
3Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn * a’r trawsion a / geisiant · fy / enaid :
ni oso/dasant / Dduw o’u / blaen.
4Wele, Duw sydd yn fy / nghynor/thwyo :
yr Arglwydd sydd ymysg y / rhai a · gyn/haliant · fy / enaid.
5Efe a dâl / ddrwg · i’m ge/lynion :
tor hwynt / ymaith / yn dy · wir/ionedd.
6Aberthaf i ti yn / ewy/llysgar :
clodforaf dy enw O Arglwydd / canys / da / yw.
7Canys efe a’m gwaredodd o / bob / trallod :
a’m llygad a welodd ei e/wyllys / ar fy · nge/lynion.

Dewis Presennol:

Salm 54: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda