Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 42

42
I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.
1Fel y brefa yr hydd am yr a/fonydd / dyfroedd :
felly yr hiraetha fy enaid am/danat / ti O / Dduw.
2Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y / Duw / byw :
pa bryd y deuaf ac yr ymdda/ngosaf · ger/bron / Duw?
3Fy nagrau oedd fwyd i mi / ddydd a / nos :
tra dywedant wrthyf bob dydd * Pa / le y / mae dy / Dduw?
4Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny * canys aethwn gyda’r / gynu/lleidfa :
cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw * mewn sain cân a moliant * fel / tyrfa · yn / cadw / gŵyl.
5Paham fy enaid y’th ddarostyngir * ac yr ymder/fysgi / ynof? :
gobeithia yn Nuw * oblegid moliannaf ef eto * am iachaw-/dwriaeth / ei wy/nepryd.
6Fy Nuw fy enaid a ymdda/rostwng ynof :
am hynny y cofiaf di * o dir yr Iorddonen a’r Her/moniaid · o / fryn / Misar.
7Dyfnder a eilw ar ddyfnder wrth sŵn dy bis/tylloedd / di :
dy holl donnau a’th lifeiriaint a / aethant / drosof / fi,
8Eto yr Arglwydd a orchymyn ei dru/garedd · liw / dydd :
a’i gân fydd gyda mi liw nos * sef / gweddi · ar Dduw fy / einioes.
9Dywedaf wrth Dduw fy nghraig * Paham yr ang/hofiaist / fi? :
paham y rhodiaf yn alarus / trwy or/thrymder · y / gelyn?
10Megis â chleddyf yn fy esgyrn * y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy / ngwara/dwyddo :
pan ddywedant wrthyf bob dydd * Pa / le y / mae dy / Dduw?
11Paham y’th ddarostyngir fy enaid? * a phaham y ter/fysgi / ynof? :
ymddiried yn Nuw * canys eto y moliannaf ef * sef iachaw-/dwriaeth · fy / wyneb · a’m / Duw.

Dewis Presennol:

Salm 42: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda