Salm 40
40
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Disgwyliais yn ddyfal / am yr / Arglwydd :
ac efe a ymostyngodd ataf / ac a / glybu · fy / llefain.
2Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll * allan o’r / pridd / tomlyd :
ac a osododd fy nhraed ar graig * gan / hwylio / fy ngher/ddediad.
3A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o / foliant · i’n / Duw ni :
llawer a welant hyn ac a ofnant * ac a ymddir/iedant / yn yr / Arglwydd.
4Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr Arglwydd yn ym/ddiried / iddo :
ac ni thry at feilchion * nac at y / rhai a / ŵyrant · at / gelwydd.
5Lluosog y gwnaethost ti O Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau * a’th amcanion tuag atom * ni ellir yn drefnus eu cyfrif / hwynt i / ti :
pe mynegwn a phe traethwn hwynt * amlach ydynt / nag y / gellir · ei / rhifo.
6Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist * a/goraist · fy / nghlustiau :
poethoffrwm a phech-/aberth / nis go/fynnaist.
7Yna y dywedais, Wele yr / ydwyf · yn / dyfod :
yn rhol y llyfr yr / ysgri/fennwyd · am/danaf.
8Da gennyf wneuthur dy ewyllys / O fy / Nuw :
a’th gyfraith / sydd o / fewn fy / nghalon.
9Pregethais gyfiawnder yn y gynu/lleidfa / fawr :
wele nid ateliais fy ngwefusau; / ti / Arglwydd · a’i / gwyddost.
10Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon * traethais dy ffyddlondeb a’th / iachaw/dwriaeth :
ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y / gynu/lleidfa · lu/osog.
11Tithau Arglwydd, nac atal dy drugareddau / oddi / wrthyf :
cadwed dy dru/garedd · a’th wir/ionedd · fi / byth.
12Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch * fy mhechodau a’m daliasant fel na allwn / edrych · i / fyny :
amlach ydynt na gwallt fy mhen * am hynny y / pallodd · fy / nghalon / gennyf.
13Rhynged bodd i ti Arglwydd / fy ngwa/redu :
brysia / Arglwydd / i’m / cymorth.
14Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy / einioes · i’w di/fetha :
gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewy/llysiant / i mi / ddrwg.
15Anrheithier hwynt yn wobr / am eu · gwa/radwydd :
y rhai a ddywedant / wrthyf / Ha / ha.
16Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai / oll a’th / geisiant :
dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser * Maw/ryger / yr / Arglwydd.
† 17Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus * eto yr Arglwydd a / feddwl · am/danaf :
fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti * fy / Nuw / na hir / drig.
Dewis Presennol:
Salm 40: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984