Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 28

28
Salm Dafydd.
1Arnat ti Arglwydd y gwaeddaf * fy nghraig, na ddis/tawa / wrthyf :
rhag o thewi wrthyf * i mi fod yn gyffelyb i / rai yn / disgyn · i’r / pwll.
2Erglyw lef fy ymbil pan / waeddwyf arnat :
pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag / at dy / gafell / sanctaidd.
3Na thyn fi gyda’r annuwiolion * a chyda gweith/redwyr · an-/wiredd :
y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion * a / drwg / yn eu/ calon.
4Dyro iddynt yn ôl eu gweithred * ac yn ôl dryg/ioni · eu dych-/mygion :
dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo * tâl / iddynt · eu / haedde · di/gaethau.
5Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd * na gwaith ei / ddwylo / ef :
y dinistria efe hwynt ac / nis · adei/lada / hwynt.
6Bendigedig / fyddo · yr / Arglwydd :
canys / clybu / lef · fy ngwe/ddïau.
7Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian * ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon * a myfi a / gynor/thwywyd :
oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon * ac ar fy / nghân · y clod/foraf / ef.
8Yr Arglwydd sydd nerth i’r / cyfryw / rai :
a chadernid iachawdwriaeth ei E/neiniog / yw e/fe.
9Cadw dy bobl a bendithia dy / eti/feddiaeth :
portha hwynt hefyd a / dyrcha · hwynt / yn dra/gywydd.

Dewis Presennol:

Salm 28: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda