Salm 26
26
Salm Dafydd.
1Barn fi Arglwydd * canys rhodiais yn / fy mher/ffeithrwydd :
ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd * am / hynny / ni / lithraf.
2Hola fi / Arglwydd · a / phrawf fi :
chwilia fy a/rennau / a’m / calon.
3Canys dy drugaredd sydd o / flaen fy / llygaid :
ac mi a / rodiais / yn dy · wir/ionedd.
4Nid eisteddais gyda / dynion / coegion :
a chyda’r / rhai tro/faus nid / af.
5Caseais gynu/lleidfa y · dryg/ionus :
a chyda’r annuw/iolion / nid eis/teddaf.
6Golchaf fy nwylo mewn / dini/weidrwydd :
a’th allor / O Arglwydd · a / amgyl/chynaf :
7I gyhoeddi â / llef clod/foredd :
ac i fynegi dy / holl / ryfe/ddodau.
8Arglwydd hoffais / drigfan · dy / dŷ :
a / lle pre/swylfa · dy o/goniant.
9Na chasgl fy enaid gyda / phecha/duriaid :
na’m bywyd / gyda / dynion / gwaedlyd :
10Y rhai y mae ysgelerder / yn eu / dwylo :
a’u de/heulaw · yn / llawn / gwobrau.
11Eithr mi a rodiaf / yn fy · mher/ffeithrwydd :
gwared fi a / thrugar/ha / wrthyf.
12Fy nhroed sydd yn sefyll / ar yr / uniawn :
yn y cynulleidfaoedd y’th fen/dithiaf / O / Arglwydd.
Dewis Presennol:
Salm 26: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984