Salm 20
20
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn / nydd cy/fyngder :
enw Duw / Jacob / a’th ddi/ffynno.
2Anfoned i ti / gymorth · o’r / cysegr :
a / nerthed / di o / Seion.
3Cofied dy / holl o/ffrymau :
a bydded / fodlon · i’th / boeth/offrwm.
4Rhodded i ti wrth / fodd dy / galon :
a chyf/lawned · dy / holl / gyngor.
5Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di * a dyrchafwn faner yn / enw ein / Duw :
cyflawned yr Arglwydd dy / holl / ddymun/iadau.
6Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd / ei e/neiniog :
efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd * yn nerth iechyd / ei dde/heulaw / ef.
7Ymddiried rhai mewn cerbydau a / rhai mewn / meirch :
ond nyni a gofiwn / enw · yr / Arglwydd · ein / Duw.
8Hwy a gwympasant / ac a · syrth/iasant :
ond nyni a gyfo/dasom / ac a · sa/fasom.
† 9Achub / Ar/glwydd :
gwrandawed y Brenin arnom / yn y / dydd y / llefom.
Dewis Presennol:
Salm 20: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984