Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 142

142
Maschil Dafydd : Gweddi pan oedd efe yn yr ogof.
1Gwaeddais â’m / llef · ar yr / Arglwydd :
â’m / llef · yr ym/biliais · â’r / Arglwydd.
2Tywelltais fy my/fyrdod · o’i / flaen ef :
a mynegais fy / nghystudd / ger ei / fron ef.
3Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn * tithau a ad/waenit · fy / llwybr :
Yn y ffordd y rhodiwn y cudd/iasant / i mi / fagl.
4Edrychais ar y tu deau a deliais sylw * ac nid oedd / neb · a’m had/waenai :
pallodd nodded i mi * nid oedd neb yn y/mofyn / am fy / enaid.
5Llefais arnat O Arglwydd / a dy/wedais :
Ti yw fy ngobaith a’m / rhan yn / nhir y · rhai / byw.
6Ystyr wrth fy ngwaedd canys / truan / iawn / ydwyf :
gwared fi oddi wrth fy erlidwyr * canys / trech / ydynt · na / mi.
7Dwg fy enaid allan o garchar fel y mol/iannwyf · dy / enw :
y rhai cyfiawn a’m cylchynant * canys ti a / fyddi / da / wrthyf.

Dewis Presennol:

Salm 142: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda