Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 141

141
Salm Dafydd.
1Arglwydd yr wyf yn gweiddi arnat / brysia / ataf :
clyw fy / llais pan / lefwyf / arnat.
2Cyfeirier fy ngweddi ger dy / fron fel / arogl-darth :
a dyrchafiad fy / nwylo · fel yr / offrwm · pryn/hawnol.
3Gosod Arglwydd gadwraeth o / flaen fy / ngenau :
cadw / ddrws / fy ngwe/fusau.
4Na ostwng fy nghalon at ddim drwg * i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weith/redant · an/wiredd :
ac na ad i mi / fwyta · o’u dan/teithion / hwynt.
5Cured y cyfiawn fi yn garedig a che/rydded / fi :
na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen * canys fy ngweddi fydd / eto · yn eu / drygau / hwynt.
6Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn / lleoedd · ca/regog :
clywant fy / ngeiriau · canys / melys / ydynt.
7Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar / fin y / bedd :
megis un yn torri neu yn / hollti / coed · ar y / ddaear.
8Eithr arnat ti O Arglwydd Dduw y / mae fy / llygaid :
ynot ti y gobeithiais * na ad fy / enaid · yn / ddiym/geledd.
9Cadw fi rhag y fagl a oso/dasant · i / mi :
a hoe/nynnau · gweith/redwyr · an/wiredd.
10Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu / rhwydau · eu / hun :
tra yr / elwyf / fi / heibio.

Dewis Presennol:

Salm 141: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda