Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 139

139
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Ar/glwydd / chwiliaist :
ac / adna/buost / fi.
2Ti a adwaenost fy eis/teddiad · a’m cy/fodiad : de/elli · fy / meddwl · o / bell.
3Amgylchyni fy / llwybr · a’m gor/weddfa :
a hysbys / wyt · yn fy / holl / ffyrdd.
4Canys nid oes / air · ar fy / nhafod :
ond wele Arglwydd / ti a’i / gwyddost / oll.
5Amgylchynaist fi yn / ôl · ac ym/laen :
a go/sodaist · dy / law / arnaf.
6Dyma wybodaeth ry / ryfedd · i / mi :
uchel yw * ni / fedraf/ oddi / wrthi.
7I ba le yr af oddi / wrth dy / ysbryd? :
ac i ba / le y / ffoaf · o’th / ŵydd?
8Os dringaf i’r nefoedd / yno · yr wyt / ti :
os cyweiriaf fy ngwely yn / uffern / wele · di / yno.
9Pe cymerwn a/denydd · y / wawr :
a phe trigwn / yn ei/thafoedd · y / môr :
10Yno hefyd y’m ty/wysai · dy / law :
ac y’m / daliai / dy dde/heulaw.
11Pe dywedwn * Diau y ty/wyllwch · a’m / cuddiai :
yna y byddai y / nos · yn o/leuni · o’m / hamgylch.
12Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti * ond y nos a o/leua · fel / dydd :
un ffunud yw ty/wyllwch · a go/leuni · i / ti.
13Canys ti a fedd/iennaist · fy a/rennau :
toaist / fi yng / nghroth fy / mam.
14Clodforaf di canys ofnadwy a / rhyfedd · y’m / gwnaed :
rhyfedd yw dy weithredoedd * a’m henaid a / ŵyr / hynny · yn / dda.
15Ni chuddiwyd fy / sylwedd · oddi / wrthyt :
pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel * ac y’m cywreiniwyd / yn i/selder · y / ddaear.
16Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd * ac yn dy lyfr di yr ysgri/fennwyd · hwynt / oll :
y dydd y lluniwyd hwynt pan nad / oedd yr / un o/honynt.
17Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau / gennyf · O / Dduw :
mor / fawr · yw eu / swm / hwynt.
18Pe cyfrifwn hwynt * amlach / ydynt · na’r / tywod :
pan ddeffrowyf * gyda / thi yr / ydwyf · yn / wastad.
19Yn ddiau O Dduw ti a / leddi · yr an/nuwiol :
am hynny y gwŷr gwaedlyd / ciliwch / oddi / wrthyf;
20Y rhai a ddywedant ysgelerder / yn dy / erbyn :
dy elynion a gy/merant · dy / enw yn / ofer.
21Onid cas gennyf O Arglwydd dy ga/seion / di? :
onid ffiaidd gennyf y / rhai a · gy/fodant · i’th / erbyn?
22A chas cyflawn y ca/seais / hwynt :
cyfrifais / hwynt i / mi · yn e/lynion.
23Chwilia fi O Dduw a / gwybydd · fy / nghalon :
prawf fi a / gwybydd / fy me/ddyliau;
24A gwêl a oes ffordd an/nuwiol / gennyf :
a thywys fi / yn y / ffordd dra/gwyddol.

Dewis Presennol:

Salm 139: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda