Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Salm 138

138
Salm Dafydd.
1Clodforaf di â’m / holl / galon :
yng ngŵydd y / duwiau · y / canaf · i / ti.
2Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd * a chlodforaf dy enw am dy dru/garedd · a’th wir/ionedd :
oblegid ti a fawrheaist dy air uwch/law dy / enw / oll.
3Y dydd y llefais / y’m gwran/dewaist :
ac a’m cadarn/heaist · â / nerth · yn fy / enaid.
4Holl frenhinoedd y ddaear a’th glod/forant · O / Arglwydd :
pan / glywant / eiriau · dy / enau.
5Canant hefyd am / ffyrdd yr / Arglwydd :
canys / mawr yw · go/goniant · yr / Arglwydd.
6Er bod yr Arglwydd yn uchel * eto efe a / edrych · ar yr / isel :
ond y balch a / edwyn · e/fe o / hirbell.
7Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder * / ti a’m · byw/heit :
estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion * a’th dde-/heulaw / a’m ha/chubai.
8Yr Arglwydd a gyf/lawna · â / mi :
dy drugaredd Arglwydd sydd yn dragywydd * nac esgeu/lusa / waith dy / ddwylo.

Dewis Presennol:

Salm 138: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda