Salm 12
12
I’r Pencerdd ar Seminith, Salm Dafydd.
1Achub, Arglwydd; canys darfu / y tru/garog :
oherwydd pallodd y ffyddloniaid o / blith / meibion / dynion.
2Oferedd a ddywedant bob un / wrth ei · gy/mydog :
â gwefus wenieithgar * ac â chalon ddau/ddyblyg / y lle/farant.
3Torred yr Arglwydd yr holl we/fusau · gwen/eithus :
a’r tafod / a ddy/wedo · fawr/hydi.
4Y rhai a ddywedant, Â’n / tafod · y gor/fyddwn :
ein gwefusau a sydd eiddom ni * pwy sydd / arglwydd / arnom / ni?
5Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig * oherwydd uchenaid y tlodion * y cyfodaf yn awr / medd yr / Arglwydd :
rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr / hwn y / magler / iddo.
6Geiriau yr Arglwydd ydynt / eiriau / purion :
fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd / wedi · ei / buro / seithwaith.
7Ti, Arglwydd, a’u / cedwi / hwynt :
cedwi hwynt rhag y gen/hedlaeth / hon yn · dra/gywydd.
8Yr annuwiolion a / rodiant · o / amgylch :
pan ddyrchafer y / gwaelaf · o / feibion / dynion.
Dewis Presennol:
Salm 12: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984