Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 10

10
1Paham Arglwydd y / sefi · o / bell? :
yr ym/guddi · yn / amser · cy/fyngder?
2Yr annuwiol mewn balchder a / erlid · y / tlawd :
dalier hwynt yn y bwr/iadau · a / ddychmy/gasant.
3Canys yr annuwiol a ymffrostia am e/wyllys · ei / galon :
ac a fendithia y cybydd * yr hwn y mae yr / Arglwydd / yn ei · ffi/eiddio.
4Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen / ni chais / Dduw :
nid yw Duw yn ei / holl fe/ddyliau / ef.
5Ei ffyrdd sydd flin bob amser * uchel yw dy farnedigaethau / allan · o’i / olwg ef :
chwythu y mae yn / erbyn · ei / holl e/lynion.
6Dywedodd yn ei galon / Ni’m sy/mudir :
oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd gen/hedlaeth / a chen-/hedlaeth.
7Ei enau sydd yn llawn melltith a / dichell · a / thwyll :
dan ei dafod y mae / camwedd / ac an/wiredd.
8Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi * mewn cilfachau y lladd e/fe y / gwirion :
ei lygaid a dremiant yn / ddirgel / ar y / tlawd.
9Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis / llew · yn ei / ffau :
cynllwyn y mae i ddal y tlawd * efe a ddeil y tlawd / gan ei / dynnu · i’w / rwyd.
10Efe a ymgryma ac / a y/mostwng :
fel y cwympo tyrfa trueiniaid / gan ei / gedyrn / ef.
11Dywedodd yn ei galon, Ang/hofiodd / Duw :
cuddiodd ei / wyneb, · ni / wêl / byth.
12Cyfod, Arglwydd; O Dduw / dyrcha · dy / law :
nac ang/hofia / y cys/tuddiol.
13Paham y dirmyga yr an/nuwiol / Dduw? :
dywedodd yn ei / galon, · Nid / ymo/fynni.
14Gwelaist hyn * canys ti a ganfyddi anwiredd a cham * i roddi tâl â’th / ddwylo · dy / hun :
arnat ti y gedy y tlawd * ti yw cynor/thwywr / yr am/ddifad.
15Tor fraich yr annuwiol / a’r dry/gionus :
cais ei ddrygioni ef / hyd na / chaffech / ddim.
16Yr Arglwydd sydd frenin / byth · ac yn dra/gywydd :
difethwyd y cenhedloedd / allan · o’i / dir / ef.
17Arglwydd, clywaist ddy/muniad · y / tlodion :
paratöi eu calon hwynt / gwrendy · dy / glust / arnynt;
18I farnu yr amddifad a’r / gorth/rymedig :
fel na chwanego dyn daearol / beri / ofn / mwyach.

Dewis Presennol:

Salm 10: SPBWM

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda