Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 32

32
1Gwyn ei fyd y sawl y ma/ddeuwyd · ei / drosedd :
ac y / cudd–/iwyd ei / bechod.
2Gwyn ei fyd y sawl nad yw’r Arglwydd yn cyfrif ei / fai · yn ei / erbyn :
ac nad oes / dichell / yn ei / ysbryd.
3Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy / esgyrn · yn / darfod :
a minnau’n / cwyno · ar / hyd y / dydd.
4Yr oedd dy law yn drwm arnaf / ddydd a / nos :
sychwyd fy / nerth fel / gan wres / haf.
5aYna, bu imi gydnabod fy / mhechod / wrthyt :
a pheidio â / chuddio / fy nryg/ioni;
5bDywedais, “Yr wyf yn cyffesu fy mhe/chodau · i’r / Arglwydd” :
a bu i tithau / faddau · eu/ogrwydd · fy / mhechod.
6Am hynny fe weddïa pob un ffyddlon arnat ti yn / nydd cy/fyngder :
a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr · ni fyddant yn / cyrraedd / ato / ef.
7Yr wyt ti’n gysgod i mi · cedwi fi / rhag cy/fyngder :
amgylchi fi â cha/neuon / gware/digaeth.
8Hyfforddaf di a’th ddysgu yn y / ffordd · a gy/meri :
fe / gadwaf · fy / ngolwg / arnat.
9Paid â bod fel march neu / ful di/reswm :
y mae’n rhaid wrth ffrwyn a genfa i’w / dofi · cyn y / dônt – / atat.
10Daw poenau lawer / i’r dryg/ionus :
ond am y sawl sy’n ymddiried yn yr Arglwydd · bydd ffydd/londeb / yn ei · am/gylchu.
11Llawenhewch yn yr Arglwydd, a gorfo/leddwch · rai / cyfiawn :
canwch yn uchel, pob / un o / galon / gywir.

Dewis Presennol:

Salm 32: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda