Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 26

26
1Barna fi, O Arglwydd, oherwydd / rhodiais · yn / gywir :
ac ymddiried yn yr / Arglwydd / heb – / ballu.
2Chwilia fi, Arglwydd, a / phrofa / fi :
rho brawf ar fy / nghalon / a’m – / meddwl.
3Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o / flaen fy / llygaid :
ac yr wyf yn / rhodio / yn dy · wi/rionedd.
4Ni fûm yn eistedd / gyda · rhai / diwerth :
nac yn cyfei/llachu / gyda · rhag/rithwyr.
5Yr wyf yn casáu / cwmni’r · rhai / drwg :
ac nid wyf yn / eistedd / gyda’r · dryg/ionus.
6Golchaf fy nwylo am fy mod / yn ddi/euog :
ac am/gylchaf · dy / allor.– O / Arglwydd,
7A chanu’n uchel mewn / diolch/garwch :
ac / adrodd · dy / holl · ryfe/ddodau.
8O Arglwydd, yr wyf yn caru’r tŷ lle’r / wyt yn / trigo :
y man lle mae dy o/goniant / yn – / aros.
9Paid â’m rhoi gyda / phecha/duriaid :
na’m / bywyd / gyda · rhai / gwaedlyd,
10Rhai sydd â chamwri / ar eu / dwylo :
a’u deheulaw’n / llawn o / lwgr-wob/rwyon.
11Ond amdanaf fi, yr wyf yn / rhodio’n / gywir :
gwareda fi a / bydd dru/garog / wrthyf.
12Y mae fy nhraed yn gadarn / mewn un/iondeb :
bendithiaf yr Arglwydd / yn y / gynu/lleidfa.

Dewis Presennol:

Salm 26: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda