Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmydd 7

7
SALM VII.
8.7.4. Frankfort. Peniel.
1Ymddiriedaf ynot, Arglwydd;
Rhag f’erlidwyr gwared fi;
2Llarpiant f’enaid megis llewod
Os efe ni chedwi Di:
6Cyfod Arglwydd
I weinyddu uniawn farn.
* 7-8Deued cynnulleidfa’r bobloedd
I’th amgylchu yn dy swydd:
Arglwydd, i dy orsedd uchel
Dychwel dithau yn eu gŵydd;
9A darfydded
Am anwiredd yn y tir.
* 10Cadarnha, O! Dduw, y cyfiawn,
Onid cyfiawn wyt dy hun?
Ti yw chwiliwr y calonau,
A dyfnderoedd natur dyn;
Iachawdwriaeth
Ynot sydd i’r uniawn rai.
11Duw yn wir sydd Farnydd cyfiawn,
Dig sydd beunydd ar ei wedd:
12-13Oni ddychwel yr annuwiol
Trefna’i fwa, hoga’i gledd;
14-16Traha’r gelyn
Ddisgyn ar ei gopa ei hun.

Dewis Presennol:

Salmydd 7: SC1885

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda