Salmydd 4
4
SALM IV.
10au. Emyn Hwyrol. Clod.
1O! Dduw ’nghyfiawnder, gwrando ar fy nghri,
Mewn cyfwng caeth ehengaist arnaf fi;
2Pa hyd, warthruddwyr, na chymerwch bwyll,
Yr hoffwch wegi, ac y ceisiwch dwyll?
3Neillduodd Duw, gwybyddwch, iddo’i hun,
A gwrendy o’r nef ar lef y duwiol un;
4-5Arswydwch bobl, ystyriwch, a distewch;
Gobeithiwch ynddo, a thrugaredd gewch.
6Pwy ddengys in’ ddaioni? medd y byd:
Dyrch arnom, Arglwydd, oleu’th wyneb pryd;
7I’m calon rho’ist lawenydd mwy ei rîn
Na’r eiddynt hwy yn amledd ŷd y gwin.
8Fel hyn mewn heddwch rhof fy mhen i lawr.
A thawel hunaf dan dy aden fawr;
Gwnei i mi drigo, er yn unig iawn.
Ar hyd y nos mewn diogelwch llawn.
Dewis Presennol:
Salmydd 4: SC1885
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.