Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmydd 29

29
SALM XXIX.
8.7. D. Vienna. Edinburgh.
1Rhowch i’r Arglwydd ei ogoniant
Feibion cedyrn dae’r a nef,
2Yn mhrydferthwch ei sancteiddrwydd
Deuwch ac addolwch Ef;
3Llef yr Arglwydd a darana
Ar y dyfroedd sydd uwch ben,
4Gan ei grym a’i hardderchawgrwydd
Cryn y ddaear, rhwyga’r nen.
5Llef yr Arglwydd ddryllia’r cedrwydd,
6Llama’r bryniau megis lloi;
* 7Llef yr Arglwydd hyllt y fflamau
Er cyflymed ŷnt i ffoi;
8Llef yr Arglwydd wna i grynu
Erch anialwch Cades draw,
9Llef yr Arglwydd wna i’r ewigod
Daflu llydnod yn eu braw.
Llef yr Arglwydd mewn ystormydd
Noetha’r coedydd trwch yn lân;
Teml y byd sydd fyw o’i foliant,
* A “Gogoniant” yw y gân;
* 10Gynt oddiar y diluw cadarn
Yr eisteddai’n Frenin mawr;
Byth teyrnasa — 11nerth a heddwch
Rydd i’w bobl ar bob awr.

Dewis Presennol:

Salmydd 29: SC1885

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda