Psalmau 123
123
Y CXXIII Psalm. Kyhydedh ferr neu
1Dercheiais y tâd attad ti
Fy llygaid nid trwy fall wêgi:
I solas hwnn a breswyli
Yn y nêf mawr dy enw i ni.
2Fal llygaid gwâs o fael llôgi
Ar law meistred mewn caledi:
Neu law‐forwŷn gwŷn o gyni
Am help gann i meistres mae hi.
Oll gwedy ’n ail yn llygaid ni
W[i]r-dha galon ar Dhuw gêli:
A hoen enaid a hynn oni
Dhel trugaredh mowredh ymi.
3Trugar-ha trugar-ha fy rhi
Wrthym Duw wrthym diwarthi:
Llyna dôn oer allanwyd ni
A di[r]mig dirfawr o dermi.
4Dirfawr oll vn‐awr yn llenwi
Gwatworgerdh caid in henaid ni:
Y goludog pair galedi
A diystyrwch beilch dosturi.
Dewis Presennol:
Psalmau 123: SC1595
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.